SL(5)251 – Gorchymyn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Rhwymedigaethau) (Cymru) 2018
Cefndir a Phwrpas
Mae Awdurdod Iechyd Arbennig, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (“AaGIC”), wedi cael ei sefydlu o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Bydd prif swyddogaethau AaGIC yn ymwneud â chynllunio, comisiynu a chyflenwi addysg a hyfforddiant ar gyfer personau sy’n gyflogedig, neu sy’n ystyried dod yn gyflogedig, mewn gweithgaredd sy’n ymwneud â’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cychwyn ar 1 Hydref 2018. Mae nifer o’r swyddogaethau hyn yn cael eu cyflawni ar hyn o bryd gan Wasanaeth y Gweithlu, Addysg a Datblygu yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo staff (erthygl 3) ac eiddo, hawliau a rhwymedigaethau (erthygl 4) o Ymddiriedolaeth GIG Felindre i AaGIC.
Mae erthygl 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo data, cofnodion a gwybodaeth.
Mae erthygl 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer parhad pethau a wneir gan neu mewn perthynas ag Ymddiriedolaeth GIG Felindre.
Gweithdrefn
Negyddol
Craffu Technegol
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Craffu ar rinweddau
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb gan y llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Medi 2018